Telerau Defnydd

Ymwadiad

Mae'r wybodaeth a'r deunyddiau ar y safle yma o natur gyffredinol ac nid ydynt yn disodli cyngor proffesiynol. Nid yw'r wybodaeth a'r deunyddiau sy'n ymddangos ar y wefan hon yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol. Ni roddir unrhyw warant, boed benodol neu wedi'i awgrymu, mewn perthynas â gwybodaeth a deunydd o’r fath sy'n ymddangos ar y wefan hon. Nid yw Howell Jones Cyfreithwyr Solicitors (y Cwmni) yn gwneud unrhyw sylw neu warant ynghylch cywirdeb cynnwys y wefan hon. Rydych yn cydnabod mai eich risg chi fydd unrhyw ddibyniaeth ar ddeunydd â ganfyddir ar y wefan yma. Argymhellir yn gryf i chi gael cyngor proffesiynol penodol cyn cymryd unrhyw gamau.

Cyhoeddir y wefan hon er gwybodaeth cleientiaid. Mae adnoddau a thaflenni gwybodaeth yn darparu trosolwg yn unig o'r rheoliadau sydd ar waith ar adeg cyhoeddi, ac ni ddylid cymryd unrhyw gamau heb ymgynghori â’r ddeddfwriaeth fanwl neu geisio cyngor proffesiynol. Felly ni all yr awduron neu'r cwmni dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled a wynebir gan unrhyw unigolyn sy'n gweithredu neu'n ymatal rhag gweithredu o ganlyniad i'r deunydd.

Mae defnyddwyr y wefan hon yn ymgymryd â'r holl gostau a risgiau sy'n deillio o ganlyniad i'w defnydd o'r wefan hon ac nid yw Howell Jones Cyfreithwyr Solicitors yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled y gallech ei wynebu o ganlyniad i'ch dibyniaeth ar unrhyw ran o’i chynnwys.

Cywirdeb Gwybodaeth

Darperir yr wybodaeth ar y wefan hon gan y Cwmni mewn ymddiriedaeth dda ac fe’i bwriedir fel gwybodaeth gyffredinol yn unig. Dylid ceisio cyngor cyfreithiol cyn gweithredu ar yr wybodaeth yma. Er y credir bod yr wybodaeth a gynhwysir ar y wefan yma yn gywir a dibynadwy, nid ydym yn cyflwyno unrhyw wybodaeth neu ddeunydd ar y wefan yma fel gwybodaeth gywir, gyflawn neu deg ac ni ddylech ddibynnu arno i'r perwyl hynny. Ni fydd y Cwmni yn atebol am unrhyw gamgymeriadau technegol, golygyddol, argraffyddol neu gamgymeriadau neu esgeulustod arall o fewn yr wybodaeth a’r deunydd a ddarperir ar y wefan hon ac ni fydd y Cwmni yn gyfrifol ychwaith am gynnwys unrhyw ddelweddau neu wybodaeth o'r wê a gysylltir â'r wefan yma.

Rhybudd Preifatrwydd y Wefan – eich gwybodaeth

Os ydych yn rhoi eich manylion personol i ni tra’n defnyddio’r wefan, mae’n bosib y byddwn ni yn ei ddefnyddio i anfon gwybodaeth yr ydych wedi’i ofyn amdano atoch.

Mae’n bosib y byddwn hefyd yn ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall yr ydych yn ei ganiatau. Er enghraifft, anfon gwybodaeth am y Cwmni neu ein gwasanaethau atoch os ydych wedi rhoi caniatad i ni wneud hynny .

Hysbysiad Hawlfraint

Mae'r wefan yma yn eiddo i Howell Jones Cyfreithwyr Solicitors. Mae'r wefan hon a’r holl hawliau eiddo deallusol (yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i hawliau ar y wefan fel cronfa ddata a hawlfraint) yn ei dyluniad, testun a graffeg (a dewis a threfniant o hynny) ynghyd â’r nodau masnachu, logos ac enwau masnachu a ddangosir ar y wefan yma yn eiddo i Howell Jones Cyfreithwyr Solicitors neu'r sawl a drwyddedir ganddo (oni noder yn wahanol).

Ni ellir defnyddio, argraffu a dosbarthu cynnwys testun a graffeg y wefan yma heb ganiatâd ysgrifenedig penodol Howell Jones Cyfreithwyr Solicitors ac wedyn YN UNIG yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

  • defnyddir cynnwys y safle ar gyfer dibenion anfasnachol yn unig
  • mae’r wybodaeth hawlfraint wedi’i harddangos (© Howell Jones Cyfreithwyr Solicitors)
  • nid yw'r cynnwys wedi’i addasu

 

Top