Trawsgludo a Morgeisi

P’un ai prynu, gwerthu, trefnu ail forgais neu drosglwyddo eciwti yn eich eiddo yr ydych am ei wneud, gallwn eich sicrhau y rhown ofal â sylw dyledus i’ch trafodiad busnes.  Gwyddom fod prynu neu werthu eiddo’n gallu bod yn dipyn o straen i’n cwsmeriaid a cheisiwn ysgafnu’r straen hwnnw drwy roi gwasanaeth heb ei ail i’n cwsmeriaid.  Eich eiddo efallai yw eich ased mwyaf gwerthfawr a dylai hyn gael ei adlewyrchu yng ngwybodaeth y cwmni y byddwch yn talu iddynt.

Rydym ar banel pob un o’r prif fanciau a chymdeithasau adeiladu gan helpu i sicrhau bod eich trafodiad busnes yn mynd rhagddo mor llyfn a chyflym â phosib.

Mae Cyfreithwyr Howell Jones wedi cael eu hasesu’n drylwyr cyn dod yn aelod o Gynllun Ansawdd Trawsgludo (CQS) Cymdeithas y Gyfraith – sef y nod rhagoriaeth ar gyfer y broses o brynu cartref.

Gallwn roi amcanbris i chi am werthu, prynu neu forgeisio tai preswyl drwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen ganlynol. Os yw eich busnes yn un brys, ffoniwch ni yn ystod oriau swyddfa.

Mae’r amcanbris yn seiliedig ar ddim cymhlethdodau annisgwyl a gallai’r pris gael ei adolygu.

Eich Manylion
Manylion yr Eiddo
Top