Pwerau Atwrnai Arhosol a Dirprwyo

Pwerau Atwrnai Arhosol

Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd meddwl am beidio â gallu gofalu am eich materion busnes eich hun yn y dyfodol, ond drwy wneud Pŵer Atwrnai Arhosol (LPA) byddwch yn sicrhau bod y bobl yr ydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt yng ngofal eich iechyd a / neu eich arian os daw'r amser pryd na allwch ddelio gyda'r pethau hyn eich hun.

Drwy wneud LPA bydd hefyd yn osgoi’r gost, yr amser a’r cymhlethdod sydd ynghlwm wrth wneud cais i’r Llys Gwarchod am Orchymyn Dirprwyo os collwch eich galluedd meddyliol yn y dyfodol heb LPA dilys yn ei le.

Gall ein tîm profiadol o ymarferwyr ddelio â phob agwedd ar eich LPA – o'r gwaith paratoi i gofrestru'r Pŵer yn y Llys Gwarchod.

Yn eithaf aml mae cwsmeriaid yn dewis penodi un o’n Cyfreithwyr fel Atwrnai proffesiynol iddynt a derbyniwn geisiadau’n rheolaidd hefyd i roi cyngor ac arweiniad arbenigol i Atwrneiod dibroffesiynol sy’n gweithredu o dan LPA.

Gorchmynion Dirprwyo

Os oes gennych berthynas neu ffrind sydd, yn drist iawn, wedi colli eu galluedd meddyliol a heb wneud LPA, gallwn roi cyngor llawn a chynhwysfawr ar sut i wneud cais am Orchymyn Dirprwyo i’r Llys Gwarchod ac, os bydd hwn yn llwyddiannus, gallwn roi awdurdod i’r Dirprwy (neu Ddirprwyon lle mae mwy nag un) dros eiddo a materion busnes y person heb alluedd.

Gall hyn fod yn broses gymhleth sydd angen rhoi sylw agos i fanylion – mae gan ein Cyfreithwyr gyfoeth o brofiad yn y maes hwn fel y byddwch yn derbyn gwasanaeth o ansawdd bob amser.

I drafod hyn ymhellach gellir trefnu apwyntiadau naill ai yn y swyddfa neu rydyn ni’n fwy na pharod i ddod i’ch gweld yn eich cartref neu ble bynnag yr ydych yn aros.

Top